Croeso

Hafan

Croeso i wefan Panel Cysylltu Cymunedol Fferm Wynt Coedwig Dyfnant.

Mae’r logisteg ar gyfer rheoli’r Panel Cysylltu Cymunedol, gan gynnwys cynnal y wefan hon, yn cael ei gwneud gan Bellenden, asiantaeth annibynnol sy’n arbenigo mewn ymgynghori cymunedol. Caiff y cyfarfodydd eu cadeirio gan Alun Pugh, cyn Weinidog Cabinet y Cynulliad Cenedlaethol a chyn Gyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, elusen ymgyrchu amgylcheddol sy’n gweithredu ym Mharc Cenedlaethol Eryri a’r cylch. 

Mae Panel Cysylltu Cymunedol Fferm Wynt Coedwig Dyfnant yn dod â thrigolion lleol, cynrychiolwyr y gymuned a chynrychiolwyr etholedig ynghyd, efo’r tîm datblygu o ScottishPower Renewables (SPR), i drafod a rhannu gwybodaeth ynghylch y fferm wynt arfaethedig.

O fewn y grwp, bydd Aelodau’r Panel ac SPR yn trafod pynciau sy’n ymwneud yn gyfan gwbl  â datblygu, adeiladu a gweithredu’r fferm wynt arfaethedig. Fforwm trafod bord gron fydd y Panel gan roi i aelodau’r gymuned leol y cyfle i ddylanwadu ar elfennau o ddyluniad terfynol y prosiect arfaethedig.

Mae Bellenden yn croesawu unrhyw gwestiynau gan aelodau’r cyhoedd sydd heb fod ar y panel, a gall cwestiynau gael eu hanfon at y tîm drwy gyfrwng y dudalen cysylltiadau. Bydd cwestiynau’n cael eu trafod gan y grwp yn y cyfarfod nesaf neu mewn cyfarfod dilynol addas (er enghraifft pan fydd arbenigwr technegol perthnasol yn bresennol).

Ar y wefan hon, byddwch yn gweld manylion rôl a nodau cyfarfodydd y Panel Cysylltu Cymunedol, rhestr o aelodau’r panel, Cylch Gorchwyl y Panel a dyddiadau, agendâu a chofnodion cyfarfodydd.  Y Cadeirydd fydd yn gyfrifol am rediad trefnus y cyfarfodydd, cadw at yr agenda a gorfodi cyfansoddiad y Grwp.

Mae manylion pellach am Fferm Wynt arfaethedig Coedwig Dyfnant i’w gweld drwy glicio ar y ddolen hon:

www.coedwigdyfnant.com

Gwybodaeth Bellach

Agendau a chofnodion Newyddion Fferm Wynt Dyfnant
Gyrrir gan Open Debate gan Consense