Ynghylch y Panel
Nod Panel Cysylltu Cymunedol Fferm Wynt Coedwig Dyfnant yw cynnig fforwm lle gall aelodau penodedig drafod a rhannu gwybodaeth am y cynigion am fferm wynt yng Nghoedwig Dyfnant. Nid yw bod yn aelod o’r Panel yn awgrymu cefnogaeth dros y cynnig, na gwrthwynebiad iddo.
Ym mis Awst 2011, lansiwyd ymgyrch i recriwtio aelodau ar gyfer y Panel. Cafodd hysbysebion eu gosod yn y County Times, Oswestry and Border Chronicle, a’r Shropshire Star (rhifyn canolbarth Cymru), ynghyd â datganiad ategol i’r wasg yn galw am ymgeiswyr.
Anfonwyd llythyrau at bob cyngor cymuned o fewn radiws 15 cilometr o’r safle arfaethedig ac ar hyd y llwybr trafnidiaeth posibl rhwng Croesoswallt a safle arfaethedig y fferm wynt. Dosbarthwyd posteri i’w dangos mewn mannau cymunedol allweddol fel hysbysfyrddau cynghorau cymuned. Hefyd dosbarthwyd ffurflenni cais i’r sefydliadau ac unigolion hynny a fynegodd ddiddordeb yn y panel yn y Diwrnodau Gwybodaeth i’r Cyhoedd a drefnwyd gan ScottishPower Renewables, a gafodd eu cynnal yng Ngorffennaf 2011.
Cafodd ceisiadau eu derbyn a’u hadolygu a’r Cadeirydd, Alun Pugh, a dewiswyd aelodau’r panel i adlewyrchu orau croestoriad eang o drigolion lleol, partïon â diddordeb, a chynrychiolwyr etholedig.
Bydd gan aelodau’r Panel gyfle i dderbyn diweddariadau gan SPR ac i roi adborth i dîm prosiect SPR.
Y bwriad yw trafod pynciau arbenigol e.e. swn; ecoleg, materion amgylcheddol a rheolaeth trafnidiaeth ym mhob cyfarfod y Panel Cysylltu Cymunedol ond bydd y pynciau hyn yn cael eu cytuno ar y cyd gan aelodau’r Panel.
Bydd y Panel yn parhau i gwrdd nes i gais gael ei gyflwyno i’r Comisiwn Cynllunio Isadeiledd, sy’n debygol o ddigwydd yn 2012.