Wefan ScottishPower Renewables © hawlfraint 2008 ScottishPower Renewables (UK) Cyf
Darparir mynediad at a defnydd o'r wefan hon gan ScottishPower Renewables ar y termau ac amodau a ganlyn.
Enw masnachol Grwp ScottishPower Renewables sydd yn cynnwys y cwmnïau a ganlyn, yw ScottishPower Renewables:
ScottishPower Renewable Energy Holdings Limited, rhif cwmni SC328194 a ScottishPower Renewable Energy Limited, rhif cwmni SC326127. Cofrestrir y ddau gwmni yn yr Alban, a'u swyddfeydd cofrestredig yn 1 Atlantic Quay, Robertson Street, Glasgow G2 8SP.
ScottishPower Renewables (UK) Limited, rhif cwmni NI028425, wedi ei gofrestru yng Ngogledd Iwerddon a chanddo ei swyddfa gofrestredig yn Arnott House, 12-16 Bridge Street, Belfast BT1 1LB.
Mae pob hawl, gan gynnwys, heb gyfyngiad, hawlfraint, yn ffurf a chynnwys y wefan hon yn perthyn i ScottishPower Renewables, ac eithrio y dywedir yn wahanol. Ni chaniateir defnyddio naill ai enw ScottishPower Renewables, logo ScottishPower Renewables (nac yn y naill achos na'r llall, unrhyw beth er dryswch yn debyg iddo) nag unrhyw hawliau perchnogol eraill ScottishPower Renewables o gynnwys y wefan hon mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys, heb gyfyngiad, mewn hysbysebrwydd na chyhoeddusrwydd yng nghyswllt dosbarthu unrhyw rhan o'r wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon heb ganiatâd ysgrifenedig o flaen llaw gan ScottishPower Renewables, ac nid yw unrhyw beth ar y wefan hon yn golygu trwydded i ddefnyddio unrhyw hawliau o'r fath mewn unrhyw ffordd ond fel y caniateir yn unswydd yma.
Wrth fynychu wefan ScottishPower Renewables yr ydych yn cytuno y cewch ac y gallwch ddefnyddio cynnwys y wefan sydd wedi'i lawrlwytho at eich defnydd personol a chartrefol, anfasnachol. Mae ScottishPower Renewables yn cadw'r hawl i dynnu'r awdurdod hyn yn ôl ar unrhyw adeg trwy hysbysiad ar y wefan hon. Nid oes gennych ganiatâd, a rydych yn cytuno i beidio â chopïo, darlledu, lawr lwytho, storio (ar unrhyw gyfrwng), trosglwyddo, dangos na chwarae yn gyhoeddus, addasu neu newid mewn unrhyw ffordd cynnwys y rhan yma nag unrhyw rhan o wefan ScottishPower Renewables pa bwrpas bynnag ond am eich defnydd personol a chartrefol, anfasnachol eich hunain, heb ganiatâd ysgrifenedig o flaen llaw gan ScottishPower Renewables. Mae rhaid i unrhyw gopi o'r wefan hon, neu gopi o unrhyw rhan ohono, cynnwys y termau ac amodau hyn.
Mae ScottishPower Renewables yn cadw'r hawl i newid y termau ac amodau hyn ar unrhyw adeg trwy hysbysiad ar ei wefan. Adolygwch y wybodaeth yn rheolaidd a roddir ar y wefan i sicrhau eich bod yn derbyn rhybudd amserol o unrhyw newidiadau felly. Bydd eich defnydd parhaol ar y wefan hon wedi cyhoeddu unrhyw newidiadau felly yn cael ei ystyried fel eich derbyniad o'r termau ac amodau cywiriedig.
Yr ydych yn cytuno i ddefnyddio'r wefan hon ond er defnydd cyfreithlon a gweddus, ac mewn ffordd nad yw yn tresmasu, torri, neu yn cyfyngu ar hawliau na mwynhad y safle hwn gan unrhyw un arall. Yn arbennig, ond heb gyfyngiad, mae rhaid i chwi beidio â gwneud unrhyw beth sydd yn anghyfreithlon, neu fydd yn gallu aflonyddu ar neu achosi gofid neu anghyfleuster i unrhyw un nag i amharu ar lif cyffredin dialog o fewn y wefan hon, nac i drosglwyddo unrhyw ddeunydd sydd yn neu gall fod yn anllad, annymunol neu yn anweddus.
Mae'r wefan hon a phob gwybodaeth a gynhwysir yma (gan gynnwys, heb gyfyngiad, enwau, delweddau, lluniau, logos ac eiconau ynghylch neu yn perthyn i ScottishPower Renewables) wedi'i darparu heb unrhyw gynrychioliad, cymeradwyaeth na gwarantiad o unrhyw fath, yn unswydd nag yn dealledig (yn gyfreithiol nag fel arall). Mae unrhyw un sydd yn defnyddio'r wybodaeth ar y wefan hon yn ei defnyddio ar ei m/fenter ei hun. Ni fydd ScottishPower Renewables yn gyfrifol am unrhyw golled na niwed ar unrhyw gyfrif, sut bynnag y codir, trwy nag mewn cysylltiad â defnydd ar y wefan, gan gynnwys, heb gyfyngiad, colled uniongyrchol neu anuniongyrchol, colled canlyniadol, neu niwed neu golled elw a godir oherwydd unrhyw wallau, diffyg neu esgeulustod yn yr wybodaeth a gynhwysir neu a gyfeirir ati ar y wefan hon, pa un ag am dor-cytundeb, mewn esgeulustod, trosedd neu gamwedd.
Darparir yr wybodaeth a'r deunydd a gynhwysir ar y Safle hwn i chi at ddibenion gwybodaeth yn unig heb olwg ar amcanion buddsoddi, sefyllfa ariannol nac adnoddau unrhyw ddefnyddiwr/aig yn arbennig. Nid yw golygu nac yn fwriad i olygu cynnig cyhoeddus o dan unrhyw ddeddfwriaeth gymwysadwy, nac yn gynnig, gwahoddiad na chymhelliad i werthu, nac yn erfyniad nac yn gynnig i brynu na masnachu mewn unrhyw ffordd arall mewn unrhyw warantau ScottishPower Renewables nac mewn unrhyw fuddsoddiad arall, nac i olygu unrhyw gyngor nac argymhelliad mewn cysylltiad ag unrhyw fuddsoddiad tebyg, nac yn cynnwys cynnig i ddarparu gwasanaethau mewn unrhyw awdurdod lle na chaniateir i ScottishPower Renewables gwneud hynny o dan unrhyw ddeddf neu reol berthnasol. Cyn cymryd unrhyw benderfyniad buddsoddi dylech geisio cyngor ymgynghorydd ariannol sydd yn gyfarwydd â'ch sefyllfa ariannol a'ch bwriadau buddsoddi. Gall gwerth cyfranddaliadau a'r incwm oddi wrthynt fynd i lawr yn ogystal ag i fyny.
Er bod yr wybodaeth a'r deunydd a gynhwysir yn y wefan hon wedi'i selio ar wybodaeth y mae ScottishPower Renewables yn eu hystyried i fod yn ddibynadwy ac yn ymdrechu i gadw'n gyfredol, nid yw ScottishPower Renewables wedi cadarnhau yr wybodaeth na'r deunydd hyn ac nid yw yn honni bod yr wybodaeth na'r deunydd yn fanwl, yn gyfredol nac yn gyflawn, ac ni ddylid dibynnu arnynt fel hynny. Ni fydd gan ScottishPower Renewables unrhyw gyfrifioldeb i gynnal y data na'r gwasanaethau sydd ar gael ar y Safle hwn nac i ddarparu unrhyw gywiriadau, diweddariadau na datganiadau mewn cysylltiad â hynny.
Mae'n bosibl bod y Safle hwn yn cynnwys datganiadau sydd yn edrych i'r dyfodol sydd yn cynnwys menter ac ansicrwydd a all achosi canlyniadau, perfformiad neu gyraeddiadau i fod yn wahanol yn eu hanfod i'r rhai a'u disgwylir, gan gynnwys risgiau y manylir yn adroddiadau blynyddol ScottishPower Renewables sydd wedi'i ffeilio gyda'r Comisiwn Gwarantau a Chyfnewid (Securities and Exchange Commission).
Mae'n bosibl bod y Safle hwn yn cynnwys cysylltiadau neu gyfeiriadau at wefannau eraill sydd yn cael eu cynnal gan rhywun arall nag oes gan ScottishPower Renewables unrhyw reolaeth drosto. Darparir cysylltiadau felly ond fel cyfleustra i chi. Nid yw cynnwys unrhyw gysylltiad â rhywun arall yn golygu cymeradwyaeth nac argymhelliad gan ScottishPower Renewables.
Nid yw ScottishPower Renewables yn gwarantu y bydd y gweithredoedd a gynhwysir yn y deunydd a gynhwysir ar y wefan hon yn ddi-dor nac yn ddiwall, nac yn gwarantu y bydd unrhyw wallau a all codi cael eu cywiro, na bod y wefan hon na'r gwasanaeth sydd yn ei darparu yn rhydd o feirysau a heintiau.
Mae ScottishPower Renewables yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r wefan hon ac i unrhyw gynnyrch neu wasanaeth a ddisgrifir ar y wefan hon ar unrhyw adeg.
Nid yw'n fwriad i'r wefan hon ac nid yw'r wefan hon yn creu unrhyw berthynas cyfreithiol nac arall rhwng ScottishPower Renewables â chi nac ag unrhyw un arall.
Os penderfynir bod unrhyw un o'r termau neu amodau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu sydd fel arall yn anymarferol oherwydd y gyfraith, i'r radd ac o fewn i'r awdurdodaeth y mae'r term neu'r amod wedi cael ei ddarganfod i fod yn anghyfreithlon, annilys neu yn anymarferol, caiff ei ddileu a bydd y termau ac amodau sydd yn weddill yn goroesi ac yn dal i fod yn orfodol ac yn ymarferol.
Rheolir a dadansoddir y termau ac amodau hyn yn unol â chyfraith Yr Alban. Bydd pob dadl a godir trwy hyn yn cael eu cyflwyno i awdurdodaeth unigryw y llysoedd Albanaidd.
Os na dderbynnir y termau ac amodau hyn yn llawn, mae rhaid terfynu ar ddefnydd ar y wefan hon yn unionsyth. Bydd unrhyw ddefnydd parhaol o'r wefan hon yn cael ei ystyried fel eich derbyniad o'r termau ac amodau hyn.